Boris Johnson
Mae Boris Johnson wedi dweud bod “y Llywodraeth yn anghywir” i beidio esbonio wrth etholwyr sut fyddai Brexit yn gweithio.

Yn ei golofn gyntaf yn y Daily Telegraph ers iddo benderfynu peidio ymgeisio i olynu David Cameron, dywedodd Boris Johnson, fu’n ymgyrchu o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, bod “rhyw fath o hysteria a theimlad o alaru dwys” ers y bleidlais.

Dywedodd bod y pryderon wedi bod yn ymfflamychol gan ddweud nad oedd “y farchnad stoc wedi plymio, fel yr oedd rhai wedi darogan. Mae’r FTSE yn uwch na phan gafodd y bleidlais ei chynnal.

“Nid oedd cyllideb frys wedi bod, ac ni fydd na un.”

Mae’n bryd i’r “honiadau nonsens” bod y genhedlaeth hŷn wedi dwyn dyfodol pobl ifanc, ddod i ben, meddai.

Ychwanegodd ei bod yn “anghywir” nad oedd  y Llywodraeth  wedi bod yn barod i esbonio sut fyddai Brexit yn gweithio er budd y DU ac Ewrop, yn sgil pleidlais dros adael.

“Ni allwn ni aros tan ganol mis Medi a phenodi Prif Weinidog newydd. Mae angen datganiad clir, nawr, o wirioneddau sylfaenol.”