Jeremy Corbyn: Amser yn rhedeg allan i arweinydd Llafur?
Ni all Jeremy Corbyn barhau’n arweinydd y Blaid Lafur, yn ôl yr Arglwydd Neil Kinnock.
Yn ôl cyn-arweinydd y blaid, mae’r gefnogaeth i Corbyn ymhlith aelodau seneddol y blaid yn edwino ac fe fyddai’n rhaid iddo sicrhau cefnogaeth mwy na 50 ohonyn nhw er mwyn brwydro i gadw’r arweinyddiaeth, meddai Kinnock.
Mae Corbyn eisoes wedi dweud y byddai’n sefyll pe bai ymgais i’w waredu.
Ond yn ôl Kinnock, fe fu “symud oddi wrth Jeremy” dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae gan aelodau ledled y wlad, gan gynnwys pobol sydd newydd ymuno, amheuon dwfn am y posibilrwydd y gallai arwain y blaid i fuddugoliaeth mewn etholiad ac mae hynny’n golygu y dylai ystyried ei swydd ar sail hynny.”
Ychwanegodd y dylid cynnal etholiad am arweinydd newydd “oni bai bod gan arweinydd gefnogaeth sylweddol yn y Senedd”.
Cafodd Kinnock ei hun yn yr un sefyllfa â Corbyn yn 1988, pan safodd Tony Benn yn ei erbyn ar gyfer yr arweinyddiaeth.
Galwodd Kinnock ar aelodau’r blaid i ystyried a ydyn nhw am “fynd i angladdau cymunedau a diwydiannau” a fydd, meddai, yn parhau i ddioddef o dan y Ceidwadwyr.