Mae Dirprwy Ganghellor yr Almaen wedi dweud bod angen i Brydeinwyr sy’n byw yn yr Undeb Ewropeaidd gael pasbort deuol – er mwyn gwneud yn siwr eu bod nhw’n gallu parhau i fyw oddi cartre’ unwaith y bydd Prydain yn torri’n rhydd.

Yn ôl Sigmar Gabriel, mae canlyniad refferendwm Mehefin 23 yn rheswm arall tros i’w wlad lacio rhywfaint ar y rheolau sy’n dweud pwy gaiff wneud cais am ddinasyddiaeth ddeuol yn yr Almaen.

“Gadewch i ni gynnig i Brydeinwyr ifanc sy’n byw yn yr Almaen, yr Eidal neu Ffrainc, y cyfle i aros yn ddinasddion Ewropeaidd, yn ogystal â Phydeinig,” meddai, er bod y gyfraith yn yr Almaen yn mynnu fod y rheiny sy’n gwneud cais i fod yn ddinesydd Almeinig, yn rhoi’r gorau i’w hen basbort.

“Ewrop yw’r lle gorau yn y byd o ran rhyddid, democratiaeth a datblygu cymdeithasol,” meddai wedyn.