Fe ddaeth tua 100 o bobol ynghyd ar Heol y Frenhines yn y brifddins brynhawn heddiw, i alw am “Gymru Rydd yn Ewrop”, ac i ddangos eu gwrthwynebiad i’r bleidlais i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ar Fehefin 23, fe bleidleisiodd mwyafrif o drigolion Caerdydd tros aros yn Ewrop.

“Ein bwriad yw ymateb yn gadarnhaol i’r ansicrwydd sydd wedi’i greu gan y refferendwm diweddar,” meddai’r trefnwyr. “Rhaid i ni ddangos bod pobl Cymru yn fwy dewr na’r gwleidyddion ac mai yn ein dwylo ni y caiff dyfodol Cymru ei ffurfio.

“Mae gwladwriaeth Prydain yn dadfeilio o flaen ein llygaid, ac mae cyfle gyda ni yng Nghymru i greu system wleidyddol newydd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn ymgyrchu mewn modd positif dros yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau na fydd ein neges yn cael ei hanwybyddu gan y sawl sydd am ddal Cymru’n ôl. Rydym yn gofyn i’n cefnogwyr a’n haelodau ledaenu’r gair, mynychu ralïau a mynd ati i ymgyrchu gyda mudiadau Cymreig blaengar i bwyso am annibyniaeth i Gymru.”