Putain yn gwerthu ei gwasanaeth (Kay Cernush Adran Dramor Llywodraeth UDA)
Ddylai puteiniaid ddim cael eu cosbi am chwilio am fusnes, meddai adroddiad gan Bwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin.
Fe ddylai’r gyfraith gael ei haddasu ar frys i wneud yn siŵr nad yw gweithwyr rhyw’n cael eu herlyn ac i ganiatáu puteindai, lle mae gweithwyr rhyw’ rhannu adeiladau.
Y nod, medai’r pwyllgor, yw sicrhau bod gweithwyr rhyw yn fwy diogel.
Peryglu gweithwyr rhyw
Yng Nghymru a Lloegr, nid prynu a gwerthu rhyw sy’n anghyfreithlon ond gweithredoedd sy’n gysylltiedig â hynny fel chwilio am fusnes ar y stryd, cerdded y strydoedd fin nos a chadw puteindy.
Yn ôl y pwyllgor mae gwneud chwilio am fusnes ar y stryd – llithio – yn cael effaith andwyol gan ei gwneud yn fwy tebygol fod puteiniaid yn cael eu cam-drin neu’n diodde’ trais.
Mae cofnod o drosedd sy’n gysylltiedig â phuteindra yn aml yn creu rhwystr ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud i mewn i waith “arferol”, medden nhw.
‘Croeso gofalus’
Rhoddodd Undeb Rhyngwladol y Gweithwyr Rhyw (IUSW) groeso “gofalus” i’r adroddiad gan pwysleisio’r angen am ddata cywir a chynhwysfawr i gefnogi newidiadau. Maen nhw hefyd eisiau cydnabyddiaeth bod gwaith rhyw cydsyniol yn wahanol i fasnachu mewn pobl a chamfanteisio.