Llun llyfrgell - heddlu yn Stryd y Frenhines (G360)
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i helynt yng nghanol Caerdydd nos Sadwrn wedi apelio am dystiolaeth o’r digwyddiad ar ffônau symudol.

Roedd hyd at 40 o bobol yn rhan o’r ffrwgwd yn y brifddinas, a chafodd nifer o bobol eu harestio.

Mae bachgen 16 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymladd wedi cael ei ryddha ar fechnïaeth, tra bod disgwyl i ddyn arall, Hodan Farah, 22, ymddangos gerbron ynadon ar Orffennaf 26 wedi’i gyhuddo o atal plismon rhag gwneud eu gwaith.

‘Ddim am odde’ ymddygiad o’r fath’

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De na fyddan nhw’n godde’r fath ymddygiad ar y strydoedd.

Mae lluniau camerâu cylch-cyfyng eisoes wedi dangos bod nifer o bobol wedi ffilmio’r digwyddiad, ac fe ddylai unrhyw un â deunydd gysylltu â’r heddlu ar 101.

Mae’r heddlu hefyd am glywed gan unrhyw un a welodd griw o bobol ifanc yn rhedeg heibio’r fynedfa i Gastell Caerdydd rhwng 6.30 a 7.30 nos Sadwrn.