Y Canghellor George Osborne
Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi cadarnhau na fydd yn ymgeisio i olynu David Cameron fel Prif Weinidog.
Dywedodd ym mhapur newydd The Times, “nid fi yw’r person i ddarparu’r undod sydd ei angen ar fy mhlaid.”
“Dyw hi ddim yn fy natur i wneud pethau wrth eu hanner, ac fe frwydrais ymgyrch y refferendwm hwn efo’r cyfan oedd gen i. Rwy’n credu yn yr achos hwn, ac fe frwydrais yn galed drosto.”
Ychwanegodd fod David Cameron wedi bod “yn gall i oedi” gweithredu Cymal 50 o Gytundeb Lisbon, sef y weithred ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi dweud ei fod yn “ystyried o ddifrif” sefyll fel ymgeisydd.
Enwau yn y ras
Mae’r enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr posib i olynu David Cameron yn agor yfory ac yn cau nos Iau, ac mae disgwyl i ASau ddewis dau ymgeisydd i’w cyflwyno i’r aelodaeth ehangach.
Mae’r enwau yn y ras hefyd yn cynnwys Boris Johnson, Theresa May, Stephen Crabb, Sajid Javid, Nicky Morgan, Amber Rudd, Andrea Leadsom, Priti Patel a Liam Fox.
Yn y cyfamser, mae Jeremy Hunt wedi awgrymu y dylai Prydain gynnal pleidlais arall ar yr Undeb Ewropeaidd, unai drwy refferendwm, etholiad cyffredinol neu gais ym maniffesto’r Ceidwadwyr.
Dywedodd y dylai cytundeb gael ei wneud sy’n cynnwys mynediad at y farchnad sengl a chyfaddawd ar symudiad rhydd gweithwyr.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog newydd gael ei benodi erbyn 2 Medi.