Llun: PA
Mae David Cameron yn teithio i Frwsel heddiw i gwrdd ag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) am y tro cyntaf ers i Brydain bleidleisio o blaid Brexit.
Mae’n debyg mai dyma fydd ei gyfarfod olaf fel aelod o’r Cyngor Ewropeaidd am fod disgwyl i’r Prif Weinidog newydd gael ei benodi erbyn 2 Medi.
Mae David Cameron yn bwriadu annog arweinwyr gwledydd eraill yr UE i ymgymryd â’r trafodaethau am berthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb “mewn modd adeiladol”.
Er hyn, ni fydd y Prif Weinidog yn cael mynychu ail ddiwrnod y cyfarfod, pan fydd y 27 o arweinwyr yn trafod sut y dylai’r UE ymateb i alwadau’r DU.
Ail refferendwm?
Mae disgwyl i’r trafodaethau dros adael yr UE bara dwy flynedd, ac mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud mai lle ei olynydd ydy sicrhau bod hynny’n digwydd yn ffurfiol gan weithredu Cymal 50 o Gytundeb Lisbon.
Mewn llythyr yn y Daily Telegraph heddiw, mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt, wedi awgrymu y dylid cynnal ail refferendwm ynglyn a thelerau Prydain dros adael yr UE.
Dywedodd, “mae angen inni drafod cytundeb a’i gyflwyno i bobol Prydain, unai mewn refferendwm, ym maniffesto’r Ceidwadwyr neu mewn etholiad cyffredinol o’r newydd.”
Trafodaethau
Mae Boris Johnson wedi cynnig y dylid cynnal trafodaethau anffurfiol â’r UE cyn llunio glasbrint a gweithredu Cymal 50.
Ond, mae arweinwyr Yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal eisoes wedi gwrthod hynny gan ddweud na fyddai trafodaethau yn cael eu cynnal “tan y bydd cais i adael yr UE wedi’i gyflwyno’n ffurfiol i’r Cyngor Ewropeaidd.”