Jeremy Corbyn
Mae’r pwysau’n cynyddu ar Jeremy Corbyn a fydd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder heddiw wrth i Aelodau Seneddol geisio ei ddisodli fel arweinydd y Blaid Lafur.

Neithiwr fe fu cyfarfod tanllyd yn y Senedd wrth i ASau Llafur ddweud wrth Jeremy Corbyn bod yn rhaid iddo ildio’r awenau er lles y blaid.

Ond mae’r arweinydd yn mynnu na fydd yn ildio, er gwaetha’r ffaith bod 40 aelod o’r fainc flaen wedi ymddiswyddo dros y deuddydd diwethaf.

Fe fydd ASau yn pleidleisio mewn pleidlais gudd wedi cynnig o ddiffyg hyder.

Galw am ‘undod’

Ond mae cefnogwyr Corbyn yn dweud y bydd yn rhaid i’w wrthwynebwyr lansio her ffurfiol er mwyn ei ddisodli. Maen nhw’n hyderus na fydd yn llwyddo gan gredu bod gan Corbyn gefnogaeth ar lawr gwlad.

Roedd nifer o’i gefnogwyr wedi dangos eu cefnogaeth i’r arweinydd mewn rali y tu allan i’r Senedd ddoe.

Mae Jeremy Corbyn wedi galw am “undod”  wrth iddo barhau i benodi aelodau newydd i gabinet yr wrthblaid.

Ymhlith y rhai sydd wedi ymddiswyddo, mae saith AS o Gymru ynghyd ag Angela Eagle, a fu’n dirprwyo ar ran Corbyn yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Mae ’na ddyfalu y gallai Angela Eagle, cyn-lefarydd busnes yr wrthblaid, fod ymhlith y rhai fydd yn herio Corbyn am yr arweinyddiaeth.