Bydd ymarfer yn cael ei gynnal yng Nghymru i brofi ymateb y gwasanaethau brys i ymosodiad brawychol.

Mae’r ymarfer, fydd yn digwydd heddiw a fory, wedi’i gynllunio ers dros 12 mis gan Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed-Powys.

Mae disgwyl iddo ddigwydd mewn amryw o leoliadau ar draws de a gorllewin Cymru a bydd Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Caerloyw, Gwasanaethau Tân ac Achub, y Gwasanaeth Ambiwlans, Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref yn cymryd rhan.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw’r ymarfer yn gysylltiedig ag unrhyw “fygythiad” o ymosodiad brawychol.

“Mae’n rhoi’r cyfle i ni sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosib, os bydd ymosodiad yn digwydd yn ne Cymru,” meddai’r Dirprwy Prif Gwnstabl dros Heddlu De Cymru, Jon Stratford.

 

Rhybudd dros sŵn a ffrwydron ffug

Mae rhybudd i bobol sy’n byw yn agos i gae ras Ffos Las, Caerfyrddin a Llantrisant, y bydd nifer fawr o gerbydau’r gwasanaethau brys o gwmpas ac mae’n debygol y byddan nhw’n clywed sŵn uchel, ffrwydron ffug a drylliau’n cael eu tanio.

“Hoffwn annog pobol i beidio â chael ofn gan y cynnydd yng ngweithgarwch y gwasanaethau brys,” meddai Pam Kelly, Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys.

“Rydym yn rhwym yn gyfreithiol i baratoi am ddigwyddiad mawr ac mae hyn yn ein galluogi i brofi ein prosesau a’n strwythurau gyda’n gilydd.”

Mae’r gwasanaethau brys yn dweud na fydd cynnal yr ymarfer yn effeithio ar eu gwasanaethau arferol.