Mae disgwyl  i “gannoedd” o bobol ddod ynghyd yng nghanol Caerdydd heno er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r Undeb Ewropeaidd.

Nid “protest” fydd y digwyddiad yn yr Aes, Caerdydd, ger prif ganolfan siopa’r ddinas, ond yn hytrach “dathliad o hunaniaeth Ewropeaidd.”

Mae’r rhai sydd y tu ôl i’r grŵp – Caerdydd dros Ewrop – yn griw o bobol ifanc yn eu hugeiniau cynnar sydd am “wneud rhywbeth positif” ar ôl “teimlo’n anobeithiol” yn dilyn y canlyniad y refferendwm ddydd Gwener.

Fe wnaeth 75% o bobol ifanc ledled y Deyrnas Unedig bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Nid protest yw hi yn erbyn y canlyniad, ond mae’n ffordd i ni leisio ein teimladau bod y canlyniad ddim yn cynrychioli canlyniad ein prif ddinas, ‘na chwaith y mwyafrif o bobol ifanc wnaeth bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Beca Harries o’r grŵp.

“Mae ‘na bryder ymhlith nifer o bobol ynglŷn â goblygiadau’r canlyniad ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n dangos ein bod yn wlad gynhwysol a bod croeso yma i bobol o Ewrop. Dyna’r prif bwrpas.

“Rydyn ni jyst am ddweud ein bod ni’n caru Ewrop ac yn caru ein ffrindiau Ewropeaidd ni.”

Codi ymwybyddiaeth am Gymru

Yn ôl Beca Harries, mae llawer wedi synnu at y bleidlais yng Nghymru, gan ei bod yn un o’r gwledydd sy’n cael cymaint o arian gan yr UE, ac mai nawr yw’r cyfle i “godi ymwybyddiaeth bositif” am Gymru.

“Fe wnaeth yr Alban bleidleisio i aros ac fe wnaeth Gogledd Iwerddon, a ni sydd ar ôl ger Lloegr, felly mae’n peri pryder gan ein bod ni ar ein pen ein hunain rhywsut.”

Cannoedd yw’r nifer ddisgwyliedig ar hyn o bryd, ond mae bellach dros 2,000 o bobol wedi dweud eu bod nhw’n mynd i’r digwyddiad ar Facebook.

“Mae pobol eisiau gwneud rhywbeth. Dydyn ni methu jyst gadael pethau fel maen nhw ar hyn o bryd.”

Ymhlith y rhai fydd yn annerch y digwyddiad mae Leanne Wood, Shazia Awan, Jamie Bevan, Beth Button, Emyr Gruffydd, Meic Birtwistle, Gareth Potter a chynrychiolwyr o’r gymuned ffoaduriaid. Mae disgwyl perfformiad hefyd gan Gruff Rhys o’r Super Furry Animals.

Mae disgwyl i ragor o siaradwyr gael eu cyhoeddi yn y bore.