Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi’n “bryd rhoi annibyniaeth ar yr agenda” yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Er bod Cymru, gyda Lloegr, wedi pleidleisio am Brexit, mae Leanne Wood yn dweud bod y canlyniad wedi “newid popeth” a bod angen “ail-ddylunio’” berthynas rhwng gwledydd Prydain.
Er bod gan Blaid Cymru gynllun am annibyniaeth yn y dyfodol, doedd dim ganddi gynlluniau am hynny yn syth, ond mae’r sefyllfa wedi newid, meddai’r arweinydd.
“Mae cefnogaeth Plaid Cymru i annibyniaeth yn hir sefydlog, ond rydym wedi bod yn realistig am yr amseru,” meddai Leanne Wood.
“Newidiodd popeth dydd Iau. Gyda’r Alban yn pleidleisio i aros, mae’n debyg na fydd y Deyrnas Unedig yn bodoli yn y dyfodol agos. Bydd Gogledd Iwerddon hefyd yn ystyried ei dyfodol.”
Galwodd am beidio â gadael Cymru ar ôl gyda Lloegr fel endid “LloegraChymru, gan greu “undeb newydd o genhedloedd annibynnol” fydd yn gweithio gyda’i gilydd.
Cymru annibynnol dros yr UE
Yn ôl Leanne Wood, pe bai’n annibynnol, byddai Cymru am aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’n dweud hefyd y dylai “pawb” – boed yn rhywun a bleidleisiodd i aros neu adael – “fod yn barod i fod yn gadarn a hyderus wrth lunio dyfodol cryf, goddefgar ac eangfrydig i’n cenedl.”
Mae disgwyl cyhoeddi rhagor o gynlluniau am agenda annibyniaeth Plaid Cymru mewn cynhadledd arbennig “yn fuan.”