Jeremy Corbyn Llun: PA
Stephen Kinnock, AS Aberafan, yw’r diweddaraf i ymddiswyddo heddiw ymysg protestiadau yn erbyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid Lafur.
Ond, mae Jeremy Corbyn wedi cadarnhau na fydd yn rhoi’r gorau i’w rôl er gwaetha’r ffaith bod 12 o’i gabinet wedi ymddiswyddo dros y penwythnos, gyda chadarnhad am dri arall y bore yma, sef Diana Johnson, Anna Turley a Toby Perkins.
Daw’r ymddiswyddiadau wedi i Jeremy Corbyn ddiswyddo Ysgrifennydd Tramor Llafur, Hilary Benn, wedi iddo fynegi pryderon am arweinyddiaeth Corbyn.
Ond, mae Jeremy Corbyn wedi cadarnhau na fydd yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd nac yn “bradychu’r” aelodau Llafur a’i hetholodd ym mis Medi.
Rhybudd gan Kinnock
Mae disgwyl i’r bleidlais o ddiffyg hyder yn Jeremy Corbyn gael ei drafod heddiw yng nghyfarfod Seneddol y blaid Lafur yn San Steffan.
Ddoe, rhybuddiodd Stephen Kinnock y gallai rhwng 30 a 60 o seddi Llafur gael eu colli “os ydyn ni’n mynd i mewn i etholiad cyffredinol cyn diwedd y flwyddyn gyda Jeremy fel ein harweinydd.”
Corbyn yn barod i sefyll eto
Dywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn “difaru” bod yr ymddiswyddiadau wedi digwydd.
“Ond, dydw i ddim yn mynd i fradychu ffydd y rheiny wnaeth bleidleisio drosof i – na’r miliynau o gefnogwyr ar draws y wlad sydd angen Llafur i’w cynrychioli nhw.
“Bydd rhaid i’r rheiny sydd am newid arweinyddiaeth Llafur sefyll mewn etholiad democrataidd, lle byddaf i yn ymgeisydd.”
‘Rôl ddifflach’
Yn ei lythyr at Jeremy Corbyn, dywedodd Stephen Kinnock ei fod yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Personol i Lefarydd Busnes, Sgiliau ac Arloesedd Llafur, Angela Eagle, oherwydd “rôl ddifflach” Jeremy Corbyn wrth ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd, “bydd gwleidyddiaeth Prydain yn cael ei ddominyddu’n llwyr gan drafodaethau Brexit yn y blynyddoedd nesaf, a dydw i ddim yn credu fod gennych chi’r sgiliau angenrheidiol na’r profiad i sicrhau y bydd llais cryf i Lafur ar y bwrdd trafod wrth inni ymgymryd â’r dasg aruthrol o gymhleth hon.”