Cafodd tri o blant eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain parc antur yn yr Alban bnawn dydd Sul.

Roedd y tri phlentyn ymhlith 10 o bobl a gafodd eu cludo i’r ysbyty ar ôl i’r atyniad Tsunami ddod oddi ar y cledrau a tharo’r ddaear ym mharc antur M&D ym Mharc Gwledig Strathclyde, yn Motherwell yng ngogledd Lanarkshire bnawn ddoe.

Yn ôl llygad-dystion roedd pobl yn gaeth yn y cerbyd pan ddaeth oddi ar y cledrau tua 3.40yp.

Cafodd y rhai oedd wedi’u hanafu eu cludo i ysbytai gerllaw.

Mae pedwar o blant yn yr Ysbyty Brenhinol i Blant – mae tri mewn cyflwr difrifol ac un yn sefydlog, meddai Ymddiriedolaeth Iechyd Glasgow a Clyde.

Mae un oedolyn mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Brenhinol Glasgow a chafodd pump o gleifion eraill eu cludo i Ysbyty Cyffredinol Wishaw.  O’r rheiny mae tri phlentyn ac un oedolyn mewn cyflwr sefydlog. Mae un plentyn arall bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae Heddlu’r Alban a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod ei meddyliau gyda’r rhai oedd wedi eu hanafu yn y ddamwain.