Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru Llun: Y Blaid Lafur
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod brys heddiw i drafod effeithiau’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru.

Mae Carwyn Jones eisoes wedi amlinellu chwe blaenoriaeth brys i Gymru, sy’n cynnwys diogelu swyddi, trafodaethau llawn ar adael, mynediad i’r Farchnad Sengl, rhyddid i symud o fewn yr Undeb, parhad cymorthdaliadau a galwad i adolygu’r fformiwla gyllido Barnett.

“Dyma un o’r cyfarfodydd Cabinet pwysicaf ers datganoli,” meddai’r Prif Weinidog gan esbonio y byddan nhw’n trafod sut i weithredu’r blaenoriaethau hynny.

Tata – trafod yn parhau

“Mae effeithiau llawn y bleidlais hon yn bell o fod yn eglur, a byddwn ni ddim yn eu gweld am beth amser,” ychwanegodd Carwyn Jones.

“Ond, mae un peth yn sicr. Ry’n ni fel Llywodraeth Cymru yn hollol benderfynol i barhau ag agwedd i fod yn ymrwymedig yn rhyngwladol gan edrych allan er budd busnes.”

Dywedodd ei fod am atgyfnerthu buddsoddwyr tramor i barhau i fuddsoddi yng Nghymru gan gadarnhau bod y trafodaethau â chwmni dur Tata yn parhau.

“Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda Tata a chefnogi gweithwyr dur wrth inni wynebu’r sialens anferthol sydd wedi’n taro yn dilyn canlyniad y refferendwm.”

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth 52.5% o bleidleiswyr Cymru bleidleisio i adael, a 47.5% yn pleidleisio i aros, sy’n golygu bod 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru am adael.