Mae unig Aelod Seneddol Llafur yr Alban, Ian Murray wedi ymddiswyddo o gabinet cysgodol y blaid.
Ar raglen Sunday Politics Scotland y BBC, dywedodd Murray ei fod e wedi rhoi gwybod i Jeremy Corbyn am ei benderfyniad.
Dywedodd Murray mai’r refferendwm Ewropeaidd oedd y prif reswm am ei benderfyniad, a’i bod yn bwysig i Lafur fod yn wrthblaid gref yn San Steffan cyn gallu ffurfio llywodraeth.
“Ry’n ni wedi bod trwy gyfnod eithriadol o anodd, nid yn unig yn y blaid ond ers canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd fore Gwener.
“Rhaid i’r Blaid Lafur fod yn wrthblaid gref ac yn glymblaid eang er mwyn dychwelyd i’r llywodraeth.”
Ychwanegodd nad oedd yn credu mai Jeremy Corbyn yw’r arweinydd delfrydol i gyflawni hynny.
“Mae e’n fod dynol iawn, yn ddyn hyfryd dw i’n dod ymlaen yn eithriadol o dda gydag e.
“Ond dydy e jyst ddim yn gallu arwain y Blaid Lafur a dw i ddim yn credu bod y cyhoedd yn credu y gall e fod yn Brif Weinidog.”
Ychwanegodd Murray y byddai Llafur yr Alban yn cefnogi ymdrechion Nicola Sturgeon i gadw’r wlad yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ond fe ddywedodd na fyddai’r blaid yn barod i’w chefnogi i sicrhau annibyniaeth i’r wlad.