Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i graffiti hiliol gael ei baentio ar ochr canolfan Bwylaidd yn Llundain.

Mae lle i gredu bod y graffiti yn Hammersmith o natur hiliol.

Ond doedd llefarydd ar ran y ganolfan ddim yn fodlon cadarnhau hynny.

Mae ymchwiliad eisoes ar y gweill yn Swydd Gaergrawnt yn dilyn adroddiadau bod llythyron hiliol wedi cael eu rhoi trwy flychau post trigolion Pwylaidd yn yr ardal.