Nicola Sturgeon - am sicrhau un ffordd neu'r llall fod yr Alban yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd (Llun: PA)
Fe fyddai gorfodi’r Alban i adael yr Undeb Ewropeaidd yn groes i’w dymuniad yn “gwbl annerbyniol” meddai Prif Weinidog y wlad, Nicola Sturgeon.

Ac mae wedi dweud y bydd yn ystyried y posibilrwydd o ail refferendwm annibyniaeth yno – os bydd Senedd yr Alban yn penderfynu mai dyna’r unig ffordd i gadw lle’r Alban yn yr Undeb Ewropeaidd, fe fydd refferendwm.

Fe gadarnhaodd y bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith o baratoi deddfwriaeth i ganiatáu refferendwm ond y bydd trafodaethau cyn gwneud y penderfyniad.

Trafodaethau gyda’r Undeb

Cyn hynny, fe fydd yn trafod gyda sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd a phob gwlad i drafod ffyrdd o gadw’r Alban yn rhan o’r Undeb.

Fe roddodd awgrym hefyd y byddai Maer newydd Llundain, Sadiq Khan, am wneud yr un peth.

Yn ôl Nicola Sturgeon roedd penderfyniad yr Alban i aros a phenderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yn golygu fod yna “newid gwirioneddol a sylweddol” yn amgylchiadau’r wlad – yr amod oedd wedi ei osod ar gyfer refferendwm arall.

Yr eironi, meddai, oedd fod pobol yr Alban wedi cael eu rhybuddio yn 2014 y byddai pleidleisio tros annibyniaeth yn peryglu ei lle yn yr Undeb Ewropeaidd.