Boris Johnson - mwy syber nag yn ystod yr ymgyrch (llun parth cyhoeddus)
Does dim angen brysio a does dim angen dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, meddai arweinydd amlyca’r ymgyrch Adael, Boris Johnson.

Ac, wrth geisio codi pontydd gyda’r garfan Aros, fe ddywedodd y byddai ‘Prydain’ yn parhau’n “bwer Ewropeaidd mawr” ac yn wladwriaeth “ryddfrydol, ddynol ac yn rym rhyfeddol tros y da yn y byd”.

Mewn araith syber, brif weinidogaidd ei naws, fe siaradodd yn uniongyrchol gyda phobol ifanc gan ddweud y gallan nhw “edrych ymlaen at ddyfodol mwy diogel a mwy ffyniannus”.

Ac roedd ganddo gic i Nigel Farage a chefnogwyr UKIP trwy ddweud y bydden nhw’n “cymryd y gwynt o hwyliau yr eithafwyr a’r rhai sydd eisiau chwarae gwleidyddiaeth gyda mewnfudo.”

Trio pwysleisio undod

Y gred yw fod mwyafrif pobol ifanc wedi pleidleisio o blaid aros yn y Refferendwm ddoe, yn groes i weddill y boblogaeth.

Fe geisiodd ef a’r arweinydd amlwg arall, Michael Gove, bwysleisio undod ac y bydden nhw’n gweithio gyda phawb i drafod y dyfodol.

Ond wnaeth yr un o’r ddau ddim rhoi unrhyw awgrym a fydden nhw’n cynnig am swydd Prif Weinidog.

Fe roddodd y ddau ganmoliaeth fawr i David Cameron – roedd yn “wleidydd  eithriadol a dewr” meddai Boris Johnson ac yn “Brif Weinidog gwych”, meddai Michael Gove.