Thomas Mair, yn y llys Llun: PA
Bydd y dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, yn sefyll ei brawf yn yr Hydref.

Mae Thomas Mair, 52, wedi’i gyhuddo o saethu a thrywanu’r gwleidydd 41 oed, y tu allan i’w swyddfa yn ei hetholaeth yn Birstall, ger Leeds, wythnos yn ôl i heddiw.

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi niwed corfforol difrifol, bod â gwn yn ei feddiant gyda’r bwriad i gyflawni trosedd ddifrifol a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Ymddangosodd ger bron llys yr Old Bailey drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh, gyda’i achos yn cael ei drin dan y protocol brawychiaeth.

Fe wnaeth yr uwch farnwr, yr Ustus Saunders, osod amserlen dros dro i’w achos, gyda’r disgwyl y bydd ei wrandawiad cyntaf ar 14 Tachwedd.

Bydd gwrandawiad arall yn digwydd ar 19 Medi yn yr Old Bailey, ac mae disgwyl i Thomas Mair gyflwyno ple erbyn 4 Hydref.

Bydd yr achos yn cael ei glywed gan farnwr yr Uchel Lys ac mae’n debygol y bydd yn yr Old Bailey.

Cadarnhau enw

Wrth iddo ymddangos yn y llys heddiw, siaradodd  unwaith yn unig i gadarnhau ei enw, yn wahanol i’w wrandawiad yr wythnos ddiwethaf, pan nododd ei enw fel “Marwolaeth i fradwyr, rhyddid i Brydain.”

Trwy gydol yr achos y bore ‘ma, cadwodd ei ben yn isel, gan ysgrifennu nodiadau, heb ymateb o gwbl wrth i’w dwrnai, Cairns Nelson QC, drafod ei achos gyda’r erlynydd, Mark Dawson, a’r barnwr.

Daw’r gwrandawiad cychwynnol ddiwrnod yn unig ar ôl i ŵr gweddw Jo Cox, Brendan, a’u dau blentyn ifanc, nodi pen-blwydd y wraig a’r fam yn 42 oed.