Tren trydan (Llun: CC BY-SA 3.0 David Monniaux)
Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud ei bod yn “gwbl ymrwymedig” dros drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, er gwaethaf pryderon rhai na fydd y cynllun yn cael ei wireddu o gwbl.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth wrth golwg360 ei bod yn disgwyl y bydd y cynllun yn cael ei orffen “cyn gynted â phosib” yn ystod y cyfnod nesaf o fuddsoddi mewn rheilffyrdd.

Fydd hynny ddim tan o leiaf 2019, er mai’r nod gwreiddiol oedd cwblhau’r gwaith erbyn 2018, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi galw am y cynllun i orffen erbyn diwedd y ddegawd.

Mae pryderon wedi cael eu codi dros yr oedi yn y prosiect, gydag un arweinydd busnes lleol yn dweud bod hynny’n effeithio ar fusnesau a buddsoddiad yn y ddinas.

Ac yn ôl yr Athro Emeritws ar Drafnidiaeth, Stuart Cole, mae gan bobol Abertawe le i boeni, gan fod dim sicrwydd, meddai fe, y bydd trenau trydan yn cyrraedd y ddinas.

“Y pwynt yw, pryd fydd (y trydaneiddio) yn mynd i Abertawe?”, meddai Stuart Cole, wrth raglen y Post Cyntaf y bore ‘ma.

“Ac os nad ydyn nhw’n mynd ymlaen, fel maen nhw wedi gwneud o Lundain, i Fryste, i Gaerdydd – os nad ydyn nhw’n mynd ymlaen yn syth – dyna yw’r cwestiwn mawr.”

“Os oes rhaid iddyn nhw ail-ddechrau’r prosiect, fydd ddim llawer o siawns y bydd y prosiect yna’n cael ei gynhyrchu.”

Delwedd Abertawe

“Mae pobol Abertawe yn iawn i boeni,” ychwanegodd.

“Maen nhw’n gorfod rhoi pwysau ar y Llywodraeth Brydeinig, achos nhw fydd yn talu am y peth yn y diwedd. A’r pwynt yw, mae’r image o Abertawe yn dod mewn i’r peth.

“Bydd pobol yn gofyn, os nad yw’r Llywodraeth Brydeinig yn fodlon buddsoddi i drydaneiddio Abertawe, beth sydd yn bod? Pam nad ydyn nhw?”

Cadarnhau’r llinell

Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r pryderon, gan gadarnhau nad oes amheuaeth dros y cynlluniau i drydaneiddio’r Llinell Great Western i Abertawe.

“Rydym yn buddsoddi symiau anferth o arian i’n rheilffyrdd i foderneiddio’r rhwydwaith a chreu teithiau gwell,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth.

“Mae’r Rhaglen Trenau Cyflym i Ddinasoedd (IEP) yn cael ei chyflwyno’r flwyddyn nesaf a fydd yn sicrhau bod teithwyr yng Nghymru yn elwa ar wasanaethau gwell a mwy dibynadwy.

“Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i drydaneiddio’r Brif Linell Great Western i Abertawe ac yn disgwyl i hyn ddigwydd cyn gynted â phosib yn ystod y cyfnod nesaf o fuddsoddi mewn rheilffyrdd, o 2019 ymlaen.”

Prif fwriad trydaneiddio’r llinell yw cyflymu teithiau rhwng Caerdydd a Llundain. Bydd hefyd yn cyflymu teithiau o Abertawe i Gaerdydd, ond hynny o ryw bum munud yn unig.

Cyfanswm cost ddiweddaraf y cynllun oedd £2.8 biliwn, er mai £874 miliwn oedd yr amcangyfrif yn 2013.