Y ddau fwrdd iechyd lle mae’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw syn perfformio waethaf wrth gyflwyno gwasanaethau Cymraeg i gleifion, yn ôl adroddiad newydd.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru, ac mae’n nodi bod prinder staff sy’n gallu cynnig gwasanaethau Cymraeg o fewn byrddau iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr.
Mae 36.7% o gleifion Hywel Dda yn siarad Cymraeg, tra bod 30.8% o gleifion Betsi Cadwaladr yn siarad Cymraeg – y cyfartaledd cenedlaethol yw 19%.
Ond mae ystadegau ar gyfer y ‘gweithlu a’r Gymraeg i gefnogi cynllunio gofal sylfaen’ yn dangos diffygion wrth ymateb i anghenion ieithyddol Cymry Cymraeg – chwe meddyg teulu sydd i bob 10,000 o gleifion yn y ddau fwrdd iechyd.
Hywel Dda sydd ar y brig ar gyfer nifer y cleifion (28%) sy’n dioddef o ‘iechyd gwael neu wael iawn’, tra mai 21.1% yw ffigwr Betsi Cadwaladr. 10% yw’r cyfartaledd cenedlaethol.
Y ddau fwrdd iechyd hyn sydd ar y brig hefyd ar gyfer Cymry Cymraeg sy’n dioddef o salwch tymor hir sy’n amharu “dipyn” ar eu bywydau bob dydd.
‘Pryder’
Yn ôl llefarydd Gwasanaethau Cymdeithasol, Pobol Hŷn a’r Gymraeg y Ceidwadwyr, Suzy Davies, mae’r ystadegau’n “bryder”.
“Mae ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg yn egluro bod 90% o Gymry Cymraeg, pan gawson nhw eu holi, wedi cytuno lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru, y dylai fod gan Gymry Cymraeg yr hawl i fynegi eu hunain yn Gymraeg wrth ymdrin â’r gwasanaeth iechyd.
“Yn wir, mae strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ei hun yn egluro bod yna ddyletswydd ar y Gwasanaeth Iechyd i gynnig gwasanaeth i gleifion drwy gyfrwng y Gymraeg ond eto i gyd, dim ond 3-4% o gleifion sy’n derbyn y fath gynnig.”
Ychwanegodd fod hyn yn gyfystyr â “methiant” ar ran Llywodraeth Cymru i recriwtio digon o Gymry Cymraeg i ateb y galw yng nghefn gwlad – a’i fod yn fater yn ymwneud ag iechyd yn ogystal â bod yn un ieithyddol.
‘Colli hyder’
Dywedodd y gallai diffyg dewis ieithyddol arwain at gleifion yn “colli hyder” yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â rhoi mwy o straen ar ysbytai.
Ychwanegodd: “Dydy’r darlun presennol ddim yn argoeli’n dda ar gyfer cyflwyno Safonau’r Gymraeg yn y dyfodol agos a nawr, rhaid i fyrddau iechyd baratoi ar gyfer eu cyflwyno i ymateb i’r risg yn sgil unrhyw ofynion sydyn y gallen nhw ei gosod ar eu hadnoddau.”
Galwodd ar yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething i amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru er mwyn adfer hyder Cymry Cymraeg fod modd iddyn nhw siarad Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd.
‘Annog darpariaeth Gymraeg’
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae darparwyr gofal cychwynnol – yn cynnwys meddygon teulu – yn gontractwyr annibynnol, hunangyflogedig, felly nid oes gofyn iddynt gydymffurfio â gofynion y Gymraeg y Bwrdd Iechyd.
“Yn ôl ein Cynllun Iaith Gymraeg, ein rôl yw cynghori a chefnogi. Rydym yn gweithio’n hynod o galed i wneud hyn ac yn annog darpariaeth Gymraeg mewn meddygfeydd ar hyd a lled Gogledd Cymru.
“Er enghraifft, mae gennym bartneriaeth waith â chanolfan feddygol ym Mangor sy’n cynnwys cefnogaeth i gyfieithu gohebiaeth i gleifion, a phrosiect arloesol â Phrifysgol Bangor i greu labeli dwyieithog ar gyfer meddyginiaethau presgripsiwn.
“O ran bodloni gofynion y Gymraeg mewn gwasanaethau yr ydym yn gyfrifol am eu darparu, rydym yn gwneud cynnydd da iawn wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog i’n poblogaeth. Gwelir tystiolaeth o hyn yn ein Adroddiad Monitro Blynyddol Gwasanaethau Cymraeg 2015-16.”