Mae rhai o aelodau’r Democratiaid yn America wedi meddiannu Siambr Tŷ’r Cynrychiolwyr yn y Gyngres, gan fynnu cynnal pleidlais ar fesurau i reoli gynnau.

Roedd y brotest i’w gweld yn fyw o ffonau symudol aelodau’r blaid, ar ôl i’r Gweriniaethwyr droi camerâu’r Tŷ i ffwrdd.

Wrth i lefarydd y Tŷ, Paul Ryan, geisio dod â phethau i drefn, fe wnaeth y Democratiaid weiddi, “Dim bil, dim saib!”, gan godi darnau o bapur ag enwau pobol America sydd wedi’u lladd gan ynnau.

Ceisiodd Paul Ryan anwybyddu’r protestwyr a pharhau â busnes y Tŷ, gyda’r Democratiaid yn dechrau bloeddio, “Cywilydd! Cywilydd! Cywilydd!” arno.

Er hynny, fe wnaeth aelodau eraill y Tŷ barhau i bleidleisio ar fesur arall, gyda’r Democratiaid yn dechrau canu “We Shall Overcome”, tra’n dal i godi enwau’r sawl sydd wedi’u lladd.

Wrth i’r noson barhau, a’r Democratiaid wedi bod yn meddiannu llawr y Tŷ ers dros 10 awr, fe wnaeth y Gweriniaethwyr alw am ohirio’r cyfarfod tan 4 Gorffennaf, cam “llwfr” yn ôl y Democratiaid.

Mae’r protestwyr yn dweud y byddan nhw’n aros tan i’r Gweriniaethwyr ateb eu galwadau i gynnal pleidlais ar gyfraith ynnau America.

“Anwybyddu gwaed pobol ddiniwed”

Daw’r brotest wythnos ar ôl i o leiaf 50 o bobol gael eu lladd mewn ymosodiad gan ddyn arfog  yng nghlwb nos i bobl hoyw yn Orlando.

Gofynnodd cynrychiolydd ar ran y Democratiaid, John Lewis, beth oedd y Gyngres wedi gwneud i arbed marwolaethau o’r fath.

“Dim,” meddai. “Rydym wedi anwybyddu gwaed pobol ddiniwed. Rydym yn ddall i’r argyfwng. Ble mae ein dewrder?”

“Dim pleidlais”

Wfftiodd Paul Ryan y brotest, gan ddweud ei fod yn “ddim mwy ‘na sbloets i gael cyhoeddusrwydd.”

Mewn cyfweliad â CNN, fe wnaeth hi’n glir na fyddai pleidlais ar y gyfraith yn digwydd, gan ddweud “dydyn ni ddim am dynnu hawliau cyfansoddiadol pobol heb drefn briodol.”

Dechreuodd y brotest am tua 11:30 y bore ac erbyn y noson honno, roedd 168 o Ddemocratiaid y Gyngres, allan o 188, a 34 o Ddemocratiaid y Senedd wedi ymuno.

Un ar ôl ei gilydd, fe wnaethon nhw siarad am yr angen i reoli gynnau yn America ac am y bobol sydd wedi cael eu lladd dros y blynyddoedd diwethaf.