Gorsaf Abertawe
Mae arweinydd busnes yn Abertawe wedi dweud y gallai’r ansicrwydd ynghylch pryd fydd trenau trydan yn dechrau teithio i’r ddinas effeithio ar economi’r ardal.

Dywedodd Juliet Luporini, cadeirydd ardal gwella busnes Abertawe, wrth y BBC y gall y dryswch fod yn niweidiol gan nad yw cwmnïau am fuddsoddi hyd nes bod dyddiad pendant am drydaneiddio’r rheilffordd yn cael ei gadarnhau.

Does dim dyddiad penodol wedi’i roi, ond mae Network Rail yn amcangyfrif y bydd y gwaith wedi’i gwblhau rhwng 2019 a 2024.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r prosiect gael ei orffen erbyn 2018, ac mae Llywodraeth Cymru wedi galw am sicrwydd y bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y ddegawd hon.

Mae Juliet Luporini bellach wedi galw am sicrwydd dros ddyddiadau a chostau’r cynllun, sydd hefyd yn annelwig.

Cyfanswm y gost ddiweddaraf oedd £2.8 biliwn, er mai £874 miliwn oedd yr amcangyfrif yn 2013.

Pobol Abertawe yn “iawn” i boeni

Bwriad trydaneiddio’r llinell yw cyflymu teithiau rhwng Caerdydd a Llundain, ond mae’r rhai sydd y tu ôl i’r cynllun yn dweud y bydd buddiannau economaidd ar draws de Cymru.

“Y pwynt yw, pryd fydd (y trydaneiddio) yn mynd i Abertawe?”, meddai’r Athro Emeritws ar Drafnidiaeth, Stuart Cole, wrth y Post Cyntaf.

“Ac os nad ydyn nhw’n mynd ymlaen, fel maen nhw wedi gwneud o Lundain, i Fryste, i Gaerdydd – os nad ydyn nhw’n mynd ymlaen yn syth – dyna yw’r cwestiwn mawr.”

“Os oes rhaid iddyn nhw ail-ddechrau’r prosiect, fydd ddim llawer o siawns y bydd y prosiect yna’n cael ei gynhyrchu.

“Mae pobol Abertawe yn iawn i boeni. Maen nhw’n gorfod rhoi pwysau ar y Llywodraeth Brydeinig, achos nhw fydd yn talu am y peth yn y diwedd. A’r pwynt yw, mae’r image o Abertawe yn dod mewn i’r peth.

“Bydd pobol yn gofyn, os nad yw’r Llywodraeth Brydeinig yn fodlon buddsoddi i drydaneiddio Abertawe, beth sydd yn bod? Pam nad ydyn nhw?”