Llys yr Old Bailey Llun: Wicipedia
Mae tad wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei ferch chwech oed ar ôl colli ei dymer – 11 mis ar ôl iddo ennill brwydr i’w chael yn ôl.

Roedd Ben Butler, 36, wedi achosi anafiadau difrifol i ben ei ferch Ellie pan gafodd ei adael ar ei ben ei hun i edrych ar ei hol a’i chwaer ieuengaf yn eu cartref yn Sutton, de Llundain ym mis Hydref 2013.

Cafwyd Butler yn euog o lofruddiaeth a chreulondeb i blentyn yn dilyn achos yn yr Old Bailey.

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 23 mlynedd dan glo.

Cafwyd ei bartner Jennie Gray, 36, hefyd yn euog o greulondeb i blentyn, ar ôl iddi gyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.  Cafodd ei charcharu am 42 mis.

‘Camgymeriad mawr’

Bu’r ddau yn protestio yn erbyn  y dyfarniad pan gafodd ei gyhoeddi gan y rheithgor gyda Gray yn dweud eu bod wedi gwneud “camgymeriad mawr” a Butler yn gweiddi y byddai’n “brwydro am byth” i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Clywodd y llys bod Butler wedi curo ei ferch yn eu cartref ar ôl iddo golli ei dymer.

Roedd wedi oedi am ddwy awr cyn ffonio 999 ac, yn lle hynny, wedi galw ei bartner Jennie Gray yn ôl o’i gwaith.

Fe gynllwyniodd y ddau i geisio dinistrio unrhyw dystiolaeth gan honni bod Ellie wedi syrthio, cyn ffonio’r gwasanaeth ambiwlans.

Clywodd y llys bod Butler wedi cam-drin Gray ac wedi ymosod ar ei ferch sawl gwaith cyn ei marwolaeth.

Bu farw fisoedd yn unig ar ôl i’r plant gael eu dychwelyd at eu rhieni yn dilyn cyhuddiadau bod Butler wedi ysgwyd Ellie pan oedd yn saith wythnos oed.

Cafwyd Butler yn euog o ymosod ar Ellie yn 2007 ond cafodd ei ddiddymu yn dilyn apêl.

‘Gwaed ar ei dwylo’

Ym mis Tachwedd 2012, fe benderfynodd barnwr y dylai Ellie a’i chwaer gael dychwelyd at eu rhieni. Daeth Mrs Ustus Hogg i’r penderfyniad er gwaethaf gwrthwynebiad gan yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a thaid Ellie, Neal Gray.

Ar y pryd, fe rybuddiodd Neal Gray, a oedd wedi gofalu am Ellie ers ei bod yn fabi, y byddai gan y barnwr “waed ar ei dwylo.”

Yn fuan ar ôl i’r plant ddychwelyd at eu rhieni, clywodd y llys bod Butler yn rhwystredig am ei fod yn aros adref gyda’r plant tra bod Gray yn gweithio fel dylunydd graffeg yn y ddinas.

Wrth ei garcharu heddiw, dywedodd y barnwr bod Butler yn ddyn “treisgar a gormesol.”