Bale of Glamorgan (Llun: Twitter Cyngor Bro Morgannwg)
Cyngor Sir Bro Morgannwg yw’r diweddaraf i ailenwi eu hawdurdod lleol i anrhydeddu seren tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale.

Am un noson yn unig, mae’r awdurdod lleol wedi newid yr arwyddion o Vale of Glamorgan i ddarllen – Bale of Glamorgan.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth tref Y Bala anrhydeddu’r seren drwy ailenwi’r dref yn Y Bale.

Daw’r newid enw wedi i Gymru guro Rwsia o 3-0 yn Toulouse neithiwr gan sicrhau eu lle yn y rowndiau nesaf a hefyd dod ar frig Grŵp B.

Mae’r newid enw hefyd wedi ennyn cefnogaeth eang ar y cyfryngau cymdeithasol.