Tabledi ecstasi
Mae dyn a dynes, a gafodd eu harestio ar ôl i dair merch 12 oed o Fanceinion gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cymryd tabledi ecstasi, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y tair merch 12 oed eu rhuthro i’r ysbyty nos Sadwrn ar ôl cymryd ‘Teddy Tablets’ yn Salford, Manceinion.

Mae dwy o’r merched yn parhau mewn cyflwr sefydlog, ond mae disgwyl i’r llall gael ei rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddarach heddiw.

Cafodd y dyn, 22, a’r ddynes, 21, eu harestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn eu meddiant, meddai Heddlu Manceinion ac maen nhw wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tan Orffennaf 15.

 ‘Edrych fel losin’

 

Yn y cyfamser, mae mam i blentyn a fu farw ar ôl cymryd ecstasi ddwy flynedd yn ôl wedi rhybuddio fod angen codi rhagor o ymwybyddiaeth gan ddweud fod cyffuriau o’r fath wedi’u “dylunio i apelio at blant.”

Yn ôl Fiona Spargo-Mabbs, “mae pobol ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio ecstasi oherwydd eu cost a’u hargaeledd.

“Maen nhw’n edrych fel losin ac maen nhw wedi’u dylunio i apelio at blant. Mae yna rai’r un siâp â briciau Lego ac eraill yn dwyn yr enw Rockstar.”

Bu farw ei mab, Daniel Spargo-Mabbs, yn 16 oed yn 2014 ar ôl cymryd ecstasi (MDMA) mewn ref anghyfreithlon yn Llundain.

Mae ei rieni wedi sefydlu Ymddiriedolaeth Daniel Spargo-Mabbs i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion gan alw ar rieni hefyd i “siarad yn agored” am beryglon cyffuriau a phwysau cyfoedion.