Barics Deepcut, Surrey Llun: PA
Mae mudiad sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder yn y fyddin wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i honiadau o gam-drin corfforol a rhywiol o fewn Barics Deepcut yn Surrey.
Mae mudiad Liberty wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, yn dilyn y cwest diweddar i farwolaeth y milwr ifanc, Cheryl James o Langollen, a fu farw yn y barics yn Surrey yn 1995.
Daeth y cwest i’r casgliad ei bod wedi lladd ei hun, gan godi cwestiynau ynghylch y diwylliant treisgar honedig oedd o fewn y barics.
Bu farw pedwar milwr ifanc ar y safle rhwng 1995 a 2002, ac mae Liberty yn dweud ei fod yn gweithredu ar ran teuluoedd tri ohonynt, sef Cheryl James, Sean Benton a James Collinson.
Mae dau arall yn honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn y barics – Mark Harrison, sy’n dweud iddo gael ei dreisio yn ystod ei gyfnod yn Deepcut, a Daniel Griffiths, sy’n honni bod uwch swyddog wedi ymosod arno.
“Cysgod tywyll” dros y Fyddin
“Mae’r ffaith nad yw’r honiadau hyn erioed wedi cael eu hymchwilio’n iawn yn parhau i daflu cysgod tywyll dros y Fyddin Brydeinig ac yn tanseilio ymdrechion i newid,” meddai Emma Norton, Cyfreithwraig i Liberty ac sy’n cynrychioli teuluoedd Cheryl James, Sean Benton a James Collinson.
“Heb ymchwiliad cyhoeddus, fydd y sawl sy’n disgrifio ymosodiadau difrifol yn Deepcut ddim yn cael y cyfle i siarad am eu profiadau.
“Maen nhw’n haeddu cael eu cydnabod, gweld y sawl sy’n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif a gwybod bod gwersi yn cael eu dysgu fel nad yw milwyr ifanc eraill yn dioddef yn y ffordd hon eto.”
Tad Cheryl James
Dywedodd tad Cheryl James, Des, y gallai ymchwiliad cyhoeddus “dynnu llinell dan y cysgod tywyll dros enw da y Fyddin Brydeinig.”
“Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwastraffu sawl blwyddyn yn osgoi ymchwiliad cyhoeddus i Deepcut a hyd yn oed wedi bod yn gwadu’r diwylliant difrïol tan yn ddiweddar,” meddai.
“Mae’r rhain yn flynyddoedd y gallai wedi cael eu defnyddio i dawelu meddyliau rhieni milwyr ifanc y dyfodol a blynyddoedd y gallai wedi cael eu defnyddio i wrando a chynnig cysur i’r milwyr hynny sydd wedi cael eu heffeithio.
“Gallai ymchwiliad cyhoeddus dynnu llinell o’r diwedd dan y cysgod tywyll dros enw da y Fyddin Brydeinig.”
Ymchwiliad ‘ddim yn angenrheidiol’
“Rydym yn credu ym mhwysigrwydd tryloywder drwy unrhyw ffordd sy’n briodol, a dydyn ni heb wrthwynebu ymchwiliadau pellach i Deepcut,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.
“Fodd bynnag, fe ddaeth adolygiad Syr Nicholas Blake i’r casgliad nad oedd ymchwiliad cyhoeddus i’r amgylchiadau yn Deepcut yn angenrheidiol, ac mae Pwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin yn cytuno.”