Mae swyddi 24 o ddiffoddwyr tân yng Ngwasanaeth Tân Wrecsam mewn perygl wrth i gyfarfod cael ei gynnal bore ‘ma i drafod toriadau o fewn y gwasanaeth.

Mae Awdurdod Tân y Gogledd am gael gwared â’r swyddi ac un injan dân, er mwyn arbed £1m ar yn y flwyddyn ariannol 2019-2020.

Bydd undeb y brigadau tân, FBU Cymru, yn y cyfarfod heddiw, ac mae’n gwrthwynebu’r toriadau i swyddi, gan ddweud y byddai’r pwysau’n ormod ar y gwasanaeth os bydd mwy o doriadau yn dod.

Mae disgwyl mwy o fanylion ar ôl y cyfarfod bore ‘ma.