Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn oedrannus yn Chelmsford yn Swydd Essex ddydd Sadwrn.

Cafodd yr heddlu wybod am ei farwolaeth toc wedi 5 o’r gloch, ac maen nhw bellach yn trin y digwyddiad fel un amheus.

Mae dyn 43 oed, dynes 41 oed a dyn 24 oed yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.