Fe fydd dyn yn ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o dreisio merch 17 oed a’i thrywanu ar ôl ei llusgo o fwyty Pizza Hut yn Swydd Surrey nos Wener.

Digwyddodd yr ymosodiad yn Epsom, Swydd Surrey am oddeutu 10.30 nos Wener.

Cafodd hi ei darganfod mewn parc gan yr heddlu yn ddiweddarach, a chafodd hi ei chludo i’r ysbyty lle mae hi mewn cyflwr difrifol, ond dydy ei bywyd ddim mewn perygl.

Mae Costica Voedes, 32, wedi’i gyhuddo o niweidio bwriadol, treisio, cipio, carcharu anghyfreithlon, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant, bod mewn ffrwgwd ac ymosod.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon ddydd Llun.