Roedd Avijit Roy yn awdur a blogiwr seciwlar a dyneiddiol
Mae dyn oedd wedi’i amau o lofruddio blogiwr yn Bangladesh wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Cafodd Avijit Roy, 42, ei ladd wrth iddo ddychwelyd o ffair lyfrau fis Chwefror diwethaf.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn sydd wedi’i enwi fel ‘Sharif’ mewn perthynas â’r achos, ac fe fu farw ger y brifddinas Dhaka ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i gyswllt chwech o bobol eraill â’r achos.
Hwn yw’r ymosodiad diweddaraf yn y wlad ac fel arfer, mae’r Wladwriaeth Islamaidd neu al-Qaeda yn hawlio cyfrifoldeb.
Ond mae llywodraeth y wlad yn dweud mai gwrthryfelwyr lleol sy’n gyfrifol y tro hwn.
Avijit Roy oedd sylfaenydd y blog Mukto-Mona (‘Meddwl Rhydd’) yn 2000, gyda’r pwyslais ar weithiau llenyddol seciwlar a dyneiddiol.
Ond roedd e wedi’i fygwth gan Fwslemiaid cyn ei farwolaeth, meddai ei deulu.