Mae merch yn ei harddegau wedi’i thrywanu a’i threisio wedi i ddyn ei llusgo hi allan o fwyty Pizza Hut yng nghanol tre’ brysur yn ne Lloegr

Fe ddioddefodd y ferch 17 oed yr ymosodiad treisgar nos Wener yn Epsom, Surrey.

Fe gerddodd dyn i mewn i’r bwyty tua 10.30yh gan ymosod ar aelod o staff y têc-awê a geisiodd ei rwystro. Fe aeth yn ei flaen i lusgo’r ferch allan o’r adeilad. Toc cyn 11yh fe lwyddodd yr heddlu i arestio’r ymosodwr, cyn dod o hyd i’r ferch wedi’i thrywanu yn ei stumog.

Mae dyn 32 blwydd oed o Epsom wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, o herwgipio, o dreisio ac o achosi niwed corfforol difrifol.