Mae confoi o tua 250 o gerbydau sy’n cario nwyddau dyngarol wedi cael ei ddal yn ôl ym mhorthladd Dover, wedi i awdurdodau Ffrainc wrthod mynediad iddyn nhw i’r wlad.

Fe adawodd y confoi, sydd wedi’i drefnu gan nifer o grwpiau ymgyrchu fel Cynulliad y Bobol a Stop the War Coalition, ddinas Llundain ben bore heddiw, cyn cael ei rwystro rhag mynd ar fferi i Calais.

Mae’r lorïau, y ceir a’r bysiau mini yn cario rhoddion ar gyfer ffoaduriaid a mudwyr sy’n byw yng ngwersyll Y Jyngl yn Calais.

“Mi gafodd y confoi ei wahanu oddi wrth y cerbydau eraill oedd yn ceisio mynd ar y fferi yn Dover,” meddai llefarydd ar ran Cynulliad y Bobol, Steve Sweeney. “Mae’n ymddangos fod yna fwriad i’n rhwystro ni rhag croesi i Ffrainc

“Mae rhai ceir wedi ei gwneud hi drosodd, ond maen nhwthau wedi cael eu stopio drosodd yno hefyd, yn ôl be’ dw i’n ddeall. Mae’r awdurdodau wedi dweud wrthon ni mai oherwydd mesurau diogelwch y mae’r confoi wedi’i gadw rhag croesi.

“Ond mae’n ymddangos fod heddlu yr ochr yma i’r Sianel hefyd yn rhan o’r peth, oherwydd roedd Heddlu Kent yn gwneud nodyn o rifau ein cerbydau wrth i ni deithio am y porthladd.”

Mae’r rheiny oedd yn rhan o’r confoi erbyn hyn yn cynnal rali yn Dover.