Tim Peake
Mae’r gofodwr, Tim Peake, wedi dychwelyd i’r ddaear, yn dilyn ei gyfnod o chwe mis ar orsaf ISS.

Fe laniodd ei gapsiwl, gyda chymorth parasiwt, mewn ardal anghysbell o Kazakhstan, tua 10.15yb heddiw.

Gyda Tim Peake yn y capsiwl, roedd dau aelod arall o griw’r orsaf ofod ryngwladol, Tim Kopra o’r Unol Daleithiau a Yuri Malenchenko o Rwsia.

Mae’r tri bellach yn cael eu hebrwng tua dinas Karaganda gan dim o gerbydau achub.