Thomas Mair gerbron y llys (Llun: PA)
Mae’r dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol Jo Cox wedi cyhoeddi wrth y llys heddiw mai ei enw oedd, “Death to traitors, freedom for Britain”.
Fe ymddangosodd Thomas Mair, 52, o Birstall, gerbron Llys Ynadon Westminster yn Llundain heddiw, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi niwed corfforol difrifol, o fod â gwn yn ei feddiant, ac o fod ag arf perfyglu yn ei feddiant.
Fe wrthododd roi ei enw cywir i’r llys, ac fe safodd yno’n fud pan ofynnwyd am ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni.
Fe orchmynodd y Dirprwy Brif Ynad, Emma Arbuthnot, ei fod yn cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos nesa’ gerbron llys yr Old Bailey ddydd Llun.
Fe fydd Thomas Mair yn cael ei gadw yng ngharchar Belmarsh, lle y bydd asesiad seiciatryddol yn cael ei wneud ohono.
Fe gafodd Jo Cox, 41, ei saethu a’i thrywanu yn y stryd y tu allan i swyddfa ei hetholaeth yn Birstall ger Leeds ddydd Iau.