Heddlu gwrth-frawychiaeth yn Llundain Llun: PA
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o annog brawychiaeth, meddai’r heddlu.

Roedd swyddogion gwrth-frawychiaeth wedi cynnal cyrch ar eiddo yng ngorllewin Llundain am 8.15yb ddydd Iau ac wedi arestio’r llanc, meddai Scotland Yard.

Mae’r eiddo yn cael ei chwilio gan yr heddlu tra bod y bachgen yn cael ei gadw yn y ddalfa.