Syr Cliff Richard
Mae’r canwr Syr Cliff Richard wedi dweud ei fod wrth ei “fodd” na fydd yn wynebu unrhyw gamau pellach dros “gyhuddiadau ffiaidd” o gam-drin rhywiol hanesyddol.
Roedd yn siarad ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud nad oedd “digon o dystiolaeth i’w erlyn” ac mae Heddlu De Swydd Efrog wedi ymddiheuro’n “ddiffuant” am y ffordd wnaeth y llu ddelio â’r cyfryngau ar gychwyn yr ymchwiliad.
Roedd y canwr 75 oed yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le. Cafodd cyrch ei gynnal ar ei gartref yn Berkshire ym mis Awst 2014 a’i ddarlledu ar y teledu yn sgil cytundeb rhwng y BBC a Heddlu De Swydd Efrog.
Roedd ditectifs yn ymchwilio i honiad o drosedd rhyw yn ymwneud a bachgen ifanc yn y 1980au.
Mewn datganiad, dywedodd Syr Cliff Richard: “Yn amlwg, rwy wrth fy modd bod y cyhuddiadau ffiaidd a’r ymchwiliad wnaeth ddilyn o’r diwedd wedi cael eu dwyn i ben.”