Llun: Heddlu Gogledd Iwerddon
Roedd y lluoedd diogelwch yn euog o “gydgynllwynio sylweddol” yn llofruddiaethau chwe dyn Catholig a gafodd eu saethu wrth wylio gêm bêl-droed Cwpan y Byd, meddai adroddiad a gafodd ei gyhoeddir heddiw.

Dywedodd yr adroddiad gan Ombwdsmon yr Heddlu Gogledd Iwerddon, Dr Michael Maguire, fod un o’r rhai sydd wedi cael ei amau o fod yn rhan o ymosodiad yr Ulster Volunteer Force (UVF) yn Loughinisland, Swydd Down yn 1994,  yn hysbysydd i’r heddlu.

‘Trychinebus’

Ymhlith canfyddiadau damniol eraill yr ymchwiliad, dywedodd Dr Maguire bod y rhai a fuodd yn rhan o’r saethu wedi bod yn gysylltiedig a nifer o lofruddiaethau blaenorol eraill, ond nad oeddent wedi cael eu harestio am fod uned cudd-wybodaeth Cangen Arbennig Heddlu Ulster (RUC) wedi cadw tystiolaeth yn ôl rhag ditectifs oedd yn ymchwilio i’r troseddau.

Tra’n cydnabod bod rhai swyddogion wedi gweithio’n ddiflino i ddal y rhai fu’n gyfrifol, disgrifiodd yr Ombwdsmon fethiannau’r ymchwiliad fel rhai “trychinebus”.

Ymosodiad

Tua 10:10yh ar Fehefin 18, 1994, fe wnaeth dau aelod o’r UVF ruthro i mewn i Heights Bar yn Loughinisland a dechrau saethu cwsmeriaid oedd yn gwylio gêm bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd.

Cafodd chwech eu lladd a phump arall eu hanafu. Y rhai gafodd eu llofruddio oedd Barney Green, 87; Adrian Rogan, 34; Malcolm Jenkinson, 53; Daniel McCreanor, 59; Patrick O’Hare, 35; ac Eamon Byrne, 39. Does unrhyw un erioed wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell am yr ymosodiad.

Smyglo arfau

Archwiliodd yr Ombwdsmon hefyd i rôl hysbyswyr i’r heddlu i ymdrechion teryngarwyr parafilwrol i smyglo arfau i Ogledd Iwerddon o ganol i ddiwedd yr 1980au.

Daeth i’r casgliad fod lluoedd diogelwch yn monitro’r sefyllfa gyda gwybodaeth oedden nhw’n ei gael gan asiantau yn y grwpiau parafilwrol ac arweiniodd hynny at stopio nifer sylweddol o arfau rhag cael eu smyglo i mewn i Ogledd Iwerddon.

Ond bu’n cwestiynu pam fod llawer o’r arfau wedi cyrraedd dwylo grwpiau teyrngarwyr parafilwrol.

Dywedodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y lluoedd diogelwch wedi cael rhybudd am yr ymosodiad yn Loughinisland.