Llun: Twitter y West London Vocational Training College
Yn ôl y corff sy’n asesu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, mae coleg preifat yng Nghaerdydd wedi methu â chyrraedd safonau mewn sawl maes o lywodraethu’r coleg.

Mae canfyddiadau ymchwiliad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) i’r West London Vocational Training College yn codi pryderon dros fethiannau yn ymwneud â derbyn myfyrwyr, presenoldeb, asesu, recriwtio a rheoli staff, llywodraethu a gwybodaeth i fyfyrwyr.

Yn ôl yr adroddiad, roedd canolfan y Coleg yn y brifddinas wedi methu â dilyn ei brosesau ei hun wrth dderbyn myfyrwyr a heb allu cadarnhau dilysrwydd cymwysterau academaidd pob un o’i myfyrwyr.

Mae’r asiantaeth yn dweud hefyd bod un o swyddogion recriwtio’r coleg wedi ymddwyn yn amhroffesiynol wrth recriwtio myfyrwyr, a bod y coleg ddim wedi cymryd camau digonol i’w fonitro.

Roedd gwybodaeth y coleg i achosion o gamymddwyn academaidd, fel llên-ladrata yn annigonol hefyd.

‘Diffygiol’

Daw’r ymchwiliad yn dilyn rhaglen ddogfen Week In Week Out BBC Cymru, oedd yn honni bod y coleg wedi twyllo’r system o gael benthyciadau drwy gynnig i helpu myfyrwyr i ffugio eu cymwysterau.

“Dyma goleg sydd wedi mynd ag arian cyhoeddus ond sydd wedi methu â darparu safonau ac ansawdd o addysg uwch rydym yn ei ddisgwyl,” meddai Will Naylor, Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd yr asiantaeth.

Ychwanegodd fod y Coleg wedi bod yn “ddiffygiol” mewn nifer fawr o agweddau.

Methiannau pellach

Mae methiannau pellach hefyd yn dangos nad oedd cofnod y coleg o fyfyrwyr yn gywir nac yn ddibynadwy.

Doedd llawer o’r myfyrwyr yng Nghaerdydd ddim yn gymwys i astudio ar lefel diploma uwch nac â’r gofynion sgiliau Saesneg angenrheidiol ar gyfer y diploma chwaith.

A thra nad oedd tystiolaeth benodol bod y myfyrwyr wedi talu i gael gwaith wedi’u hysgrifennu drostyn nhw, roedd gwendidau’r staff rheoli yn awgrymu na fyddan nhw wedi gallu mynd i’r afael â’r broblem, petai’n digwydd.

Mae 19 o welliannau wedi cael eu hargymell i’r Coleg yng Nghaerdydd, ac mae ganddo bedair wythnos i lunio cynllun i gyrraedd y rhain.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y West London Vocational Training College.