(Llun: Rui Vieira/PA)
Mae disgwyl i brisiau tai ostwng am ychydig oherwydd yr ansicrwydd am ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl syrfewyr.
Am y tro cyntaf ers 2012, mae mwy o syrfewyr yn disgwyl i brisiau ostwng yn y tri mis nesaf nag sydd yn rhagweld y bydd cynnydd mewn prisiau, yn ôl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Cymru (RICS).
Roedd 10% yn fwy o syrfewyr yn disgwyl i brisiau ostwng yn y tri mis nesaf na’r rhai sy’n disgwyl cynnydd.
Ond dywedodd RICS bod hyn yn annhebygol o olygu y bydd mwy o dai fforddiadwy yn y farchnad a gyda phrinder cartrefi o hyd, mae disgwyl i brisiau godi eto.