Llun: PA
Mae’r ymgyrchoedd dros Aros a Gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrthdaro dros iechyd ar ôl i Aelod Seneddol Ceidwadol newid ochr o’r ymgyrch Gadael i Aros.
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin, Sarah Wollaston ei bod wedi newid ochr am nad oedd hi’n credu y byddai prif ddadl yr ymgyrch dros adael yr Undeb yn golygu y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn cael £350 miliwn ychwanegol yr wythnos.
Yn ôl Sarah Wollaston, ni allai fod wedi ymgyrchu ar sail ffigurau “rwy’n gwybod sydd ddim yn wir.”
“Os ydych chi mewn sefyllfa lle na allwch chi ddosbarthu pamffledi Vote Leave, yna gallwch chi ddim fod yn ymgyrchu dros y sefydliad hwnnw,” meddai Dr Wollaston wrth y BBC.
Mae David Cameron wedi croesawu ei phenderfyniad gan ddweud ei fod yn “ymyrraeth bwerus”.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Vote Leave bod penderfyniad Sarah Wollaston yn “bisâr” ond eu bod yn dymuno’r gorau iddi.
“O ystyried ei daliadau am yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol mae’n siomedig i’w gweld yn ail-adrodd sylwadau’r ymgyrch Remain.”
Cofrestru i bleidleisio
Daw’r penderfyniad wrth i Aelodau Seneddol baratoi i bleidleisio ynglŷn ag ymestyn y cyfnod y gall pobl gofrestru i bleidleisio tan hanner nos heno. Roedd miloedd o bobl wedi methu cofrestru nos Fawrth oherwydd problemau technegol gyda’r wefan.
Mae’n golygu y bydd deddfwriaeth frys yn cael ei rhuthro drwy’r Senedd.
Mae Downing Street yn mynnu bod y penderfyniad yn gyfreithlon ond mae rhai yn yr ymgyrch Leave yn honni ei fod yn ymdrech i sicrhau bod rhagor o ymgyrchwyr dros aros yn yr UE yn cofrestru i bleidleisio yn y refferendwm ar 23 Mehefin.
Mae pennaeth ymgyrch Leave, Arron Banks wedi awgrymu y gallai gyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad.