Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland Llun: Gwefan y Comisiynydd
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi argymhellion y Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau plant ar waith.

Mae disgwyl i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn gyhoeddi adroddiad yn nodi sut y mae llywodraeth Cymru a Phrydain wedi rhoi hawliau plant ar waith yn eu cyfreithiau, eu polisïau a’u harferion.

Mae’r hawliau hyn wedi’u cynnwys yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a gafodd ei gytuno gan Lywodraeth Cymru yn 2004.

‘Ymrwymiad’

Yn ystod araith Arsyllfa Cymru ym Mhrifysgol Bangor ddydd Iau, fe fydd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn dweud: “Byddaf fi’n disgwyl i holl aelodau Cabinet newydd Llywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad i symud ymlaen gydag argymhellion y Pwyllgor trwy Raglen Lywodraethu benodedig ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, a chynllun gweithredu wedi’i ddiffinio’n glir er mwyn rhoi CCUHP ar waith yn llawn.

“Rwy’n falch iawn bod Prif Weinidog Cymru wedi creu Ysgrifennydd Cabinet penodol sy’n gyfrifol am gydlynu polisi plant, gan gydnabod lle unigryw plant yn ein cymdeithas, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Carl Sargeant wrth iddo ddatblygu’r rôl hon.”

Canfyddiadau

Heddiw bydd Pwyllgor y CU yn cyhoeddi ei ganfyddiadau, neu sylwadau terfynol, sy’n debygol o roi sylw i’r meysydd canlynol:
· Tlodi plant ac effaith diwygio lles yn ddiweddar ar hawliau plant;
· Y cynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu rhoi mewn gofal, a’r diffyg sefydlogrwydd o ran trefniadau gofal;
· Mesurau i ymateb i’r cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl i blant;
· Cam-drin a cham-fanteisio ar blant yn rhywiol;

‘Cyfraniad amhrisiadwy plant’

Mae pleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed, Senedd Ieuenctid Genedlaethol a newid y gyfraith i roi amddiffyniad cyfartal rhag ymosodiad hefyd yn debygol o fod yn faterion allweddol sy’n deillio o argymhellion y Pwyllgor.

Ychwanegodd Sally Holland: “Er na all y Pwyllgor orfodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i newid eu cyfreithiau, eu polisïau a’u hymarfer, rwy’n rhagweld y bydd y ddwy Lywodraeth yn cymryd canfyddiadau’r Pwyllgor o ddifri ac yn ymateb iddyn nhw’n gyflym ac yn ystyrlon, yn enwedig yng ngoleuni cyfraniad amhrisiadwy plant a phobl ifanc i’r broses hon o adrodd.”