Carchar y Parc, ym Mhen-y-Bont ar Ogwr
Mae elusen wedi dweud bod adroddiad ar Garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn codi “pryderon difrifol” am ddiogelwch carcharorion yno.

Dywedodd y Gynghrair Howard dros Ddiwygio’r Deddfau Cosbi fod adolygiad Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn “amlygu’r pryderon dros gadw cannoedd o ddynion mewn carchar mawr.”

Mae’r Arolygiaeth wedi cyhoeddi adroddiad ar Garchar y Parc, sy’n cael ei redeg gan G4S ac sydd â lle i fwy na 1,600 o ddynion, yn ogystal ag uned i blant, lle’r oedd 38 o fechgyn adeg yr adolygiad.

Mae’r elusen wedi codi pryderon dros yr adroddiad i’r uned honno hefyd, oedd yn nodi bod y rhan fwyaf yn teimlo eu bod wedi cael eu herlid gan staff yr uned.

Yn ôl yr arolygwyr, a ymwelodd â’r safle i oedolion ym mis Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr, roedd cyffuriau yn hawdd i’w cael, roedd lefelau trais yn uchel ac roedd llawer o ddynion yn teimlo’n anniogel.

Dywedodd Cynghrair Howard fod pedair marwolaeth wedi bod yn y carchar i ddynion yn 2016 hyd yn hyn, gyda’r gred bod dau ddyn wedi lladd eu hunain, un dyn wedi marw o achosion naturiol a dim esboniad am farwolaeth y pedwerydd dyn.

Er bod yr adolygiad yn cydnabod bod rhai agweddau o lywodraethu’r carchar yn “arbennig”, mae’n pwysleisio bod yna le i wella.

Grym corfforol wedi treblu

Un o bob pum bachgen oedd yn teimlo y byddai’r staff yn ystyried eu cwyn o ddifrif, o gymharu â thua hanner bechgyn yr uned y tro diwethaf bu adolygiad yn 2013.

Ac mae’r defnydd o rym corfforol yn yr uned wedi treblu ers yr adolygiad diwethaf, lle cafodd dros 200 o ddigwyddiadau eu cofnodi yn y chwe mis cyn yr adolygiad, er mai llai na 40 o blant sydd yno.

Roedd rhai plant wedi dweud wrth arolygwyr eu bod wedi cael eu hanafu wrth i staff eu dal, a hynny mewn mannau yn y carchar sydd heb CCTV, gan gynnwys mewn celloedd.

Roedd chwarter o’r bechgyn hefyd yn dweud bod bechgyn eraill wedi ymosod arnyn nhw yn y carchar.

“Pryderon” dros garchardai mawr

“Mae’r adroddiadau hyn yn codi pryderon difrifol am ddiogelwch yng ngharchar y Parc – yn y carchar enfawr i oedolion, lle mae dynion wedi marw, ac yn yr uned lai i blant, lle mae grym corfforol wedi treblu,” meddai Frances Cook, Prif Weithredwr Cynghrair Howard dros Ddiwygio’r Deddfau Cosbi.

“Mae’r lefelau uchel o drais yn y carchar i oedolion yn amlygu’r pryderon dros gadw cannoedd o ddynion mewn carchardai mawr – ac mae’n drist bod carchar newydd, hyd yn oed yn fwy na Pharc, yn cael ei adeiladu yng ngogledd Cymru.

“Mae Cynghrair Howard hefyd yn ymwybodol o’r honiadau difrifol o gam-drin plant yn hiliol yn y  Parc, mae’r rhain yn cael eu hymchwilio.”