Llun: PA
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd wedi cael ei ymestyn yn dilyn trafferthion technegol nos Fawrth.
Doedd miloedd o bobol ddim wedi gallu cofrestru cyn canol nos ar ôl i’r wefan dorri i lawr, ac felly, mae ganddyn nhw tan yr un amser nos Iau, 9 Mehefin.
Mae disgwyl y bydd yn rhaid cyflwyno deddfwriaeth frys er mwyn gallu rhoi sêl bendith i’r estyniad.
Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling wedi bod yn amlinellu’r drefn newydd ar gyfer deddfu i ymestyn y dyddiad cau.
Eglurodd un o weinidogion y Swyddfa Gabinet, Matt Hancock fod y drefn newydd yn cael ei chyflwyno yn dilyn trafodaethau trawsbleidiol yn Nhŷ’r Cyffredin.
Ceisio ‘dylanwadu ar y canlyniad’
Ond mae ymgyrchwyr tros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o geisio dylanwadu ar ganlyniad y refferendwm drwy ymestyn y dyddiad cau.
Mae prif weithredwr Vote Leave, Matthew Elliott wedi cyhuddo’r Llywodraeth o geisio cofrestru cymaint o bobol ifanc â phosib, gan wybod eu bod nhw’n fwy tebygol o bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Roedd 214,000 o bobol – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n bobol ifanc – wedi ceisio cofrestru rhwng 9 a 10 o’r gloch nos Fawrth, ond dydy hi ddim yn glir faint ohonyn nhw oedd wedi gallu cofrestru cyn canol nos.
‘Adolygiad barnwrol’
Mae cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol yn San Steffan, Bernard Jenkin wedi rhybuddio y gallai’r Llywodraeth wynebu adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau pe bai’r canlyniad yn un agos yn y pen draw.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r gofrestr fod yn gyflawn chwe diwrnod cyn y refferendwm, gyda phum niwrnod ychwanegol i herio cofnodion newydd ar y gofrestr – ond dim ond 14 o ddiwrnodau sydd cyn dyddiad y refferendwm.
Mae aelodau’r ddwy ymgyrch wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i gynifer o bobol bleidleisio â phosib.
Mae pobol sydd eisoes wedi cofrestru hefyd yn cael eu hannog i wirio eu bod nhw’n dal ar y gofrestr yn dilyn y trafferthion.