Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw  dyn a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar gyrion Abertawe brynhawn dydd Mawrth.

Dywedodd teulu Thomas James Lewis, 22, mewn datganiad y byddai “colled enfawr” ar ei ôl.

Yn ôl y wasg leol, mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

Fe fu farw yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd ddeuol yr A483 ym Mhenllergaer am 5.25 brynhawn dydd Mawrth.

Roedd yn gyrru car Dacia Sandero gwyn pan aeth ei gerbyd oddi ar yr heol a tharo wal.

Mae’r heddlu’n rhoi cefnogaeth i’w deulu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.