Carwyn Jones Llun: Senedd.tv
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud bod Mesur Cymru “ymhell o fod yn berffaith” ac mae “nifer o fanylion pwysig eto i’w datrys”.

Serch hynny, meddai, mewn araith yn y Senedd, “mae’n well na’r drafft blaenorol.”

Dywedodd Carwyn Jones bod y Mesur yn “sylfaenol bwysig” i Gymru a chyfeiriodd at “hanes troellog” y darn o ddeddfwriaeth a gafodd ei gyhoeddi’n gyntaf fis Hydref y llynedd.

Fis yn ddiweddarach, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn adroddiad nad oedd y ddeddfwriaeth yn addas ar gyfer ei phwrpas, gan ddweud bod ei ddibenion yn groes i fandad a gafodd ei gyflwyno yn dilyn refferendwm ar bwerau pellach i’r Cynulliad yn 2011.

Cafodd y farn honno ei hategu gan y pwyllgor sy’n gofalu am faterion cyfansoddiadol a deddfwriaethol, ac fe ddaeth argymhelliad ym mis Mawrth gan y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid oedi cyn cyflwyno’r Mesur er mwyn ei ddatblygu ymhellach.

‘Croeso gofalus’

 

Yn ei araith ddydd Mercher, dywedodd Carwyn Jones: “Mae’r Mesur newydd ymhell o fod yn berffaith ac mae nifer o fanylion pwysig eto i’w datrys, ond mae’n well na’r drafft blaenorol.

“Mae wedi elwa o drafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru: ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau.

“Byddai’n well gen i fod wedi’i gyflwyno’n ddiweddarach er mwyn galluogi mwy o gynnydd i ddigwydd, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y manylion yn parhau a bod sgôp pellach am ail-ystyried darpariaethau’r Mesur wrth iddo fynd rhagddo.”

Ychwanegodd ei fod yn rhoi “croeso gofalus” i’r ddeddfwriaeth.

Cynnydd a mannau gwan

 

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys pwerau newydd ym meysydd etholiadau, ynni, trafnidiaeth a thrwyddedau morwrol.

Ychwanegodd fod y Mesur yn rhoi rhagor o bwerau i ddiwygio cyfraith breifat a throseddol, a bod angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwn, ond eu bod nhw’n arwydd o “gynnydd positif”.

Dywedodd fod seiliau yn y ddeddfwriaeth newydd er mwyn datblygu system gyfreithiol ar wahân yng Nghymru a Lloegr “yn y tymor hir”.

Dywedodd hefyd ei fod yn croesawu’r ffaith fod y ddeddfwriaeth yn galw am lai o ganiatâd o du San Steffan i basio deddfau yng Nghymru.

Ychwanegodd fod rhagor o waith i’w wneud ym meysydd isadeiledd cymunedol a thrwyddedau alcohol.

Un o’r prif broblemau, meddai Carwyn Jones, yw y gall y Trysorlys benderfynu ar hyn o bryd y byddan nhw’n datganoli’r dreth incwm heb ganiatâd y Cynulliad neu’r Llywodraeth.

Dywedodd fod darpariaethau’r Mesur ar gyfer dŵr yn “annerbyniol” gan nad ydyn nhw’n ufuddhau i Gytundeb Gŵyl Ddewi.

Mynegodd bryder hefyd am gyflogau athrawon.

‘Anghytundeb yn parhau’

 

Wrth gloi ei araith, dywedodd Carwyn Jones y byddai llywodraethau Cymru a Phrydain yn parhau i anghytuno ar nifer o feysydd, megis plismona, ond y byddai Llywodraeth Cymru’n “parhau i bwyso ac annog dadleuon seneddol”.

“Mae cryn waith i’w wneud o fewn cyfnod tynn a gobeithio y gallwn ni weithio’n drawsbleidiol er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru.”