Nadia Jones Llun: Heddlu De Cymru
Mae cwpl a lofruddiodd ddynes 38 oed yn ei chartref yng Nghaerdydd wedi cael eu carcharu heddiw.
Cafodd Nadia Jones ei bwrw a’i thagu gan Kial Ahmed, 34, o Dongwynlais a Roxanne Deacon, 26, o Grangetown yn ystod lladrad yn ei chartref yn Nhremorfa ar 11 Medi’r llynedd.
Roedd Kial Ahmed wedi’i gael yn euog o lofruddio a lladrata a chafodd ddedfryd o garchar am oes.
Cafodd Roxanne Deacon ei dedfrydu i 13 mlynedd a hanner yn y carchar a hynny am ddynladdiad a lladrata.
Teyrngedau
Yn dilyn yr achos, dywedodd merch Nadia Jones, Leah Driscoll, bod ei theulu yn mynd drwy “ddedfryd oes gan na fydd Nadia fyth yn ôl gyda ni.”
“Bydd gennym ni ein hatgofion i’w trysori ond mae ‘na gymaint mwy y dylwn ni fod wedi gwneud.”
Diolchodd i Heddlu De Cymru, swyddogion cyswllt teulu a swyddogion cefnogi dioddefwyr, yn ogystal â’u teulu a’u ffrindiau am eu “cefnogaeth barhaus.”
‘Trosedd ddidrugaredd’
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd, Mark O’Shea: “Roedd Nadia Jones yn fam ac yn ferch gariadus iawn, a bydd ei theulu yn parhau i alaru dros ei marwolaeth.”
“Hoffwn ddiolch i dystion a ddaeth at yr heddlu a’r gymuned yn Nhremorfa am eu help a’u cefnogaeth yn ystod ein hymchwiliad i’r drosedd ddidrugaredd hon.
“Gobeithio bydd y dedfrydau heddiw yn helpu teulu Nadia i symud ymlaen rhywsut ac i’w chofio fel merch ifanc oedd yn hapus ac yn llawn bywyd.”