Alec Warburton
Fe ymddangosodd dyn, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei landlord, yn Llys y Goron Abertawe heddiw.

Clywodd y llys fod David Craig Ellis, 40, wedi ymosod ar Alec Warburton â morthwyl yn Sgeti, Abertawe.

Roedd y landlord, 59 oed, wedi bod ar goll o’i gartref ers 31 Gorffennaf eleni, a chafwyd o hyd i’w gorff ym mhentref Dolwyddelan, ger Blaenau Ffestiniog ar 20 Medi – deuddydd ar ôl i David Ellis gael ei arestio yn Iwerddon.

Mae David Ellis wedi cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddio Alec Warburton.

Mae disgwyl i’r achos barhau am tua thair wythnos.