Mae ymchwiliad i ymateb Heddlu De Cymru i achosion o drais domestig wedi cael ei lansio gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Daw hyn yn dilyn achos lle wnaeth dyn ymosod yn ddifrifol ar ei bartner ar y pryd, a hynny 36 awr ar ôl i’r heddlu siarad â’r ddau yn ei gartref yng Nghaerdydd.
Cyn i’r ymosodiad ddigwydd ym mis Gorffennaf 2013, fe wnaeth swyddogion yr heddlu ymweld â dau eiddo gwahanol rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2013, yn ymateb i alwadau aelodau’r cyhoedd oedd yn codi pryderon dros les y ferch.
Digwyddodd yr ymosodiad ar 10 Gorffennaf 2013 a chafodd y dyn – Craig Thomas – ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar am droseddau treisgar yn erbyn y ddynes.
Fe wnaeth y ferch gwyno am y ffordd y gwnaeth Heddlu De Cymru ddelio â’i hachos cyn iddi roi gwybod i’r heddlu am yr ymosodiad.
Mae hefyd wedi apelio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ynghylch yr ymchwiliad gafodd ei wneud gan yr heddlu i’w chwyn.
“Achos difrifol”
“Roedd hwn yn achos o drais domestig difrifol, ac rydym yn casglu adroddiadau gan y dioddefwr a’r swyddogion perthnasol,” meddai Jan Williams, Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru.
“Rydym yn ymchwilio i ymateb Heddlu De Cymru i ddigwyddiadau, a ph’un a oedd prosesau a pholisïau trais domestig wedi’u dilyn.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wrth golwg360 nad oedden nhw’n gallu gwneud sylw tra bod yr ymchwiliad yn digwydd ond y byddan nhw’n ymateb i’r canfyddiadau, pan fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi.
Bydd hyn yn debygol o gymryd ychydig fisoedd yn ôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.